Cymwysterau Cymru: 'Angen newidiadau i'r drefn hyfforddi'

Bethan Lewis
Gohebydd Addysg BBC Cymru

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen cyflwyno newidiadau i'r drefn ar gyfer hyfforddi pobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal ac sy'n gofalu am blant, yn ôl y corff sy'n gyfrifol am gymwysterau.

Daeth adolygiad o gymwysterau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i'r casgliad bod y drefn yn "gymhleth, dryslyd" a'n "fratiog".

Dywedodd corff Cymwysterau Cymru y dylid cynnwys pynciau allweddol fel gofal dementia wrth asesu pobl sy'n hyfforddi i weithio gyda phobl hŷn.

Mae'r adroddiad yn nodi prinder hyfforddwyr Cymraeg a diffyg cyfleoedd i ddysgwyr gael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gwaith yn dechrau i ddatblygu cymwysterau newydd erbyn Medi 2019.

'Dim llwybr clir'

Mae'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn cyflogi mwy o bobl nag unrhyw sector arall yng Nghymru, ac mae disgwyl y bydd yn cyflogi 216,000 o bobl erbyn 2017, gan gynnwys chwarter yr holl fenywod yn y gweithle.

Sefydlwyd Cymwysterau Cymru y llynedd i oruchwylio ac asesu gwahanol sectorau i weld os yw'r cymwysterau sydd ar gael yn cynnig y sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen.

Dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Cymwysterau Galwedigaethol, bod y sectorau'n cyflogi miloedd yng Nghymru, gan ofalu am rai o aelodau mwyaf bregus cymdeithas.

"Mae angen i'r rheini sy'n gwneud y swyddi cyfrifol hyn gael cymwysterau priodol a chael mynediad at hyfforddiant a dysgu o ansawdd uchel," meddai

Er bod canmoliaeth i gyrff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae'r adroddiad yn dweud nad yw'r drefn gymwysterau yn "gwbl effeithiol nag effeithlon".

Mae'n dweud bod, "ystod y cymwysterau yn y sector yn gymhleth, dryslyd, bratiog, gyda'r potensial i fod yn gamarweiniol a, yn fwyaf arwyddocaol, ddim yn gosod llwybr clir i ddysgwyr symud ymlaen".

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Emyr George bod y dewis eang o gymwysterau yn gallu creu dryswch

Dywedodd Emyr George, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymwysterau Cymru bod y dewis eang o gymwysterau yn gallu creu dryswch.

"Weithiau roedden ni yn darganfod bod ymgeiswyr yn cymryd mwy nag un cymhwyster achos nad oedden nhw yn rhy siŵr pa un fyddai'r un gorau i ddewis", meddai.

"Felly un gwelliant yn y tymor hir fyddai i ni edrych i ddatblygu cyfres o gymwysterau sydd yn cyd-fynd efo'i gilydd yn fwy clir na'r rhai presennol."

'Dan anfantais'

Yn ôl yr adroddiad, mae angen mwy o ffocws ar ofal dementia i rai sydd am ddilyn gyrfa yn y maes, mae angen mwy o bwyslais ar reoli chwarae mewn cymwysterau gofal plant, ac maei pryder nad oes digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Mr George: "Fe wnaethon ni ddod ar draws enghreifftiau o rai dysgwyr fyddai wedi hoffi gallu sefyll asesiadau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwbl gyfan neu yn rhannol a'u bod nhw ddim wedi teimlo eu bod yn medru cymryd y cyfle yna.

"Un o'r rhesymau oedd nad oedd cyflenwad digonol o staff dysgu, athrawon, tiwtoriaid ac aseswyr, bob amser."

Mae'r adroddiad hefyd yn codi pryderon ynglŷn â throsglwyddo cymwysterau rhwng Cymru a Lloegr ac mae'n dweud bod "risg cynyddol bod dysgwyr sydd eisiau gweithio ar draws ffiniau dan anfantais o gymryd cymhwyster yn un wlad neu'r llall".

Roedd gallu rhai o'r aseswyr yn bryder gydag awgrymiadau ei bod "yn anodd i ddysgwyr beidio llwyddo" mewn rhai cymwysterau.