Ffordd yn Sir Conwy ynghau wedi gwrthdrawiad difrifol
- Cyhoeddwyd

Mae rhan o ffordd y B4501 yn Sir Conwy wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar a beic modur.
Cafodd dau ambiwlans awyr eu galw i'r digwyddiad rhwng Gorsaf Dân Cerrigyrdrudion a Chanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw am 17:50 nos Fercher.
Mae un dyn ag anafiadau difrifol wedi ei gludo i Ysbyty'r Brifysgol yn Stoke.
Cafodd dau ambiwlans awyr eu galw yn dilyn y gwrthdrawiad