Cyflwyno cyfraith newydd i amddiffyn addysg wledig?

Ysgol Mynyddcerrig

Fe allai Llywodraeth Cymru gyflwyno cyfraith newydd i amddiffyn addysg wledig, yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

Roedd y cytundeb rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn cynnwys addewid i edrych ar effaith polisïau presennol ar ysgolion gwledig.

Mae'n rhaid i gynghorau ystyried nifer y llefydd gwag mewn dosbarthiadau wrth benderfynu ar ddyfodol ysgolion.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg y byddai ymgynghoriad ar bolisi ysgolion gwledig yn debygol o ddechre yn yr hydref.

Mwy o lefydd gwag

Daeth Kirsty Williams yn rhan o Gabinet Llafur Carwyn Jones ar sail cytundeb oedd yn cynnwys addewid i adolygu'r polisi presennol ar lefydd gwag mewn ysgolion "gyda phwyslais ar ysgolion gwledig".

Dywedodd bod gostyngiad yn nifer y disgyblion yn golygu bod mwy o lefydd gwag mewn ysgolion gwledig a hynny'n codi cwestiynau am ddyfodol rhai ysgolion: "Mae'n hollol iawn ein bod yn gwario adnoddau ar blant yn yr ysgol a ddim yn ganiataol ar ariannu llefydd gwag".

"Ond fe all olygu mewn rhai ardaloedd gwledig, mae gofyn i blant deithio yn bell i gael eu haddysg. Felly mae hyn yn gyfle i edrych ar effaith y polisi ar dorri llefydd gwag a beth mae hynny'n ei olygu ar lawr gwlad ar gyfer dyfodol addysg mewn ardaloedd gwledig."

Dywedodd fod y polisi presennol yn gallu golygu penderfyniadau sydd ddim yn ystyried twf yn y boblogaeth yn y dyfodol.

Mae'r pwyslais ar dorri llefydd gwag mewn ysgolion "wedi gorfodi cynghorau i lawr un llwybr penodol" meddai'r ysgrifennydd.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Emily Dix

Roedd Emily Dix yn ddisgybl mewn ysgol wledig, sef Ysgol Gynradd Mynyddcerrig, cyn i'r ysgol gau. Pan oedd hi'n saith oed roedd yn rhaid iddi symud i ysgol arall. Mae'n dweud bod hynny wedi cael effaith fawr arni.

Image caption Roy Owen

Un arall aeth i'r ysgol oedd Roy Owen. Fe aeth ei dad-cu, ei dad, ei blant a rhai o'i wyrion yno hefyd. Dywedodd: "Mae tai yn dod lan ar werth. Dyw pobl ifanc ddim yn dod i edrych arnyn nhw achos sdim ysgol ma. So mae'r pentref yn mynd yn bentref hen bobl."

Yn ôl Kirsty Williams dydy Cymru erioed wedi cael polisi ar ysgolion gwledig, yn wahanol i Loegr a'r Alban.

Fe fydd proses ymgynghori yn asesu sut i symud ymlaen a mae llunio cyfraith newydd yn un opsiwn meddai: "Rydw i wedi cael trafodaeth gyda'r Prif Weinidog a dydyn ni ddim wedi diystyru'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth gynradd os dyna rydyn ni angen i symud y polisi yma ymlaen."

"Ond rwy' eisau gwneud hynny ynghyd â gwrando ar gymunedau gwledig - rhieni a disgyblion ac athrawon sy'n gweithio dan yr amgylchiadau yna - fel ein bod yn gallu gwneud addysg wledig mor gryf a phosib."

Dywedodd y dylid hefyd trafod denu a chadw staff a phenaethiaid a phwysigrwydd ysgolion fel adnoddau cymunedol.

Yr wythnos hon buodd Cyngor Gwynedd yn trafod cynlluniau fyddai'n gweld penaethiaid yn cymryd cyfrifoldeb dros sawl ysgol, yn hytrach na gorfod cau ysgolion.

Image caption Mae Kirsty Williams wedi dadlau yn erbyn cau rhai ysgolion yn ei hetholaeth wledig, Brycheinog a Maesyfed yn y gorffennol

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg wrth Aelodau Cynulliad ddydd Mercher bod creu "ffederasiwn" trwy ddod a sawl ysgol at ei gilydd yn "cynnig nifer o gyfleoedd" wrth godi safonau, gwario arian yn effeithiol a chadw plant yn eu cymunedau.

Mae'r cynghorydd sy'n gyfrifol am addysg yng nghyngor Sir Gaerfyrddin yn croesawu'r bwriad i edrych eto ar effaith polisiau Llywodraeth Cymru ar addysg yng nghefn gwlad.

Yn ôl Gareth Jones mae agor ysgolion newydd fel Ysgol Carreg Hirfaen yn Cwmann yn cynnig adeiladau newydd ac adnoddau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain i blant cefn gwlad, er bod hynny wedi mynd law yn llaw a chau safleoedd eraill.

'Her gyfreithiol'

Dywedodd bod y polisi ar dorri llefydd gwag "yn her anferthol" i'r cyngor.

"Mae'r boblogaeth yn gostwng. Sdim o'r teuluoedd a phlant yn symud i'r ardaloedd hynny. Felly mae'n edrych yn wael", meddai.

Ond mae'n hydreus bod yna gyfle nawr i "edrych ar yr her mewn ffordd wahanol".

"Y'n ni'n cael ein bygwth gyda'r llefydd gwag yma drwy'r amser. Mae rhaid i ni wynebu'r her mewn ffordd wahanol. Mae unrhyw ateb sy'n cadw ysgol ar agor, cadw'r gymuned i fynd, yn allweddol".