Caniatâd cynllunio i atyniad newydd ar safle yn Eryri
- Cyhoeddwyd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer atyniad newydd ar safle Zip World ger Betws-y-Coed.
Bydd slediau'r alpine coaster yn rhedeg ar drac 1km o hyd drwy'r coed, a dyma fydd y reid gyntaf o'i fath i agor ym Mhrydain.
Mae atyniadau o'r fath yn boblogaidd mewn ardaloedd sgïo ar draws Ewrop, Asia ac America, a gobaith y datblygwyr yw y bydd yn atyniad allai gael ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn.
Bwriad Zip World, sydd eisoes wedi agor sawl atyniad awyr agored yn Eryri dros y blynyddoedd diwethaf, yw agor yr alpine coaster i ymwelwyr erbyn 2017.
'Addas i blant'
Mae gan Zip World eisoes dri safle gweithgareddau awyr agored yng ngogledd Cymru, gan gynnwys y ganolfan ym Metws-y-Coed, gwifren wib ym Methesda, a hen chwarel Llechwedd ger Blaenau Ffestiniog sydd bellach yn ogofau trampolinio.
Ar y reid newydd fe fydd modd i'r rheiny sydd yn ei ddefnyddio reoli'u cyflymder eu hunain, ac fe fydd lle i ddau berson deithio ym mhob cerbyd fyddai'n golygu bod modd i rieni fynd â phlant ifanc arno.
Dywedodd Sean Taylor, Cyfarwyddwr Masnachol Zip World: "Bydd y cwrs dros un cilomedr o hyd ac fe fydd teuluoedd a'r rheiny sydd eisiau ychydig o antur yn cael mwynhâd o'r mwyaf wrth iddyn nhw ddisgyn drwy'r coed sydd yn edrych dros olygfa brydferth Dyffryn Conwy."