Y Seintiau Newydd 0-0 Apoel Nicosia
- Cyhoeddwyd

Y Seintiau'n dathlu eu buddugoliaeth yng Nghwpan Cymru eleni
Mae'r Seintiau Newydd wedi atal pencampwyr Cyprus, Apoel Nicosia, rhag sgorio gôl oddi cartref hollbwysig yn eu gêm yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
Fe wnaeth tîm Craig Harrison roi perfformiad amddiffynnol cryf yn erbyn Apoel, sydd wedi cyrraedd rownd y grwpiau dair gwaith yn y gorffennol.
Scott Quigley gafodd y cyfle orau i'r tîm cartref, ond peniodd yn syth at y golwr gyda'i ymgais.
Roedd rhaid i'r Seintiau amddiffyn am gyfnodau hir yn y gêm, ond di-sgôr oedd hi ar ddiwedd y 90 munud.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yng Nghyprus ar 19 Gorffennaf.