Cairns: 'Rydyn ni i gyd yn Brexiteers bellach'
- Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i Brydain nawr fwrw ymlaen â'r dasg o adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns.
Mae disgwyl i Theresa May olynu David Cameron yn Brif Weinidog yn ddiweddarach yr wythnos hon, a hynny ar ôl iddi ennill y ras i fod yn arweinydd newydd ar y blaid Geidwadol.
Roedd Theresa May, sydd wedi bod yn Weinidog Cartref yn y llywodraeth ers 2010, yn un o'r gwleidyddion Ceidwadol blaenllaw oedd wedi datgan ei chefnogaeth dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd cyn y refferendwm.
Ond mae hi eisoes wedi pwysleisio y bydd hi'n ceisio "gwneud Brexit yn llwyddiant" wrth iddi baratoi i gymryd yr awenau fel yr ail Brif Weinidog benywaidd yn hanes Prydain ar ôl Margaret Thatcher.
Ychwanegodd Alun Cairns fod "pawb yn Brexiteers bellach gan mai dyna oedd dymuniad y cyhoedd", a'i fod yn disgwyl i'r Prif Weinidog newydd "ymateb o ganlyniad i hynny".
Ond fe rybuddiodd aelod seneddol Bro Morgannwg na fyddai gofyn i San Steffan ddarparu'r arian unwaith y byddai'r cyllid o gyfeiriad Ewrop yn dod i ben yn debygol o ddatrys problemau economaidd Cymru.
'Gwario'n well'
Yn ystod ymgyrch y refferendwm, fe godwyd pryderon y gallai Cymru fod ar ei cholled yn ariannol yn dilyn pleidlais i adael, gan ei bod hi'n derbyn cymaint o arian Ewropeaidd, a bod dim sicrwydd y byddai'r cyllid hwnnw'n parhau i gael ei gynnig gan lywodraeth San Steffan.
Ond yn ôl Alun Cairns, dyw'r tlodi sydd wedi arwain at weld Cymru'n derbyn cymaint o arian gan yr Undeb Ewropeaidd yn y lle cyntaf ddim yn sefyllfa gynaliadwy, a taclo hynny ddylai fod yn flaenoriaeth i wleidyddion.
"Nid newid un ffynhonnell o incwm am un arall yw'r ateb," meddai Ysgrifennydd Cymru wrth y BBC.
"Fe wnaeth y refferendwm amlygu sawl peth i ni. Doedd y math o brosiectau a natur y gwario ddim yn dal gafael yn y cymunedau hynny felly mae angen lefel llawer uwch o drafodaeth.
"Fe ddywedodd dyn busnes o Gymru i mi'r wythnos diwethaf bod y sefyllfa fel ag yr oedd hi yn anghynaliadwy. Mae'n rhaid ymateb ac mae refferendwm Brexit wedi rhoi'r cyfle i ni wneud hynny."