Dedfrydu 10 am gynllwyn i gyflenwi cocên yn ne Cymru

Cocen Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Daeth yr heddlu o hyd i werth £500,000 o gocên

Mae 10 o bobl wedi eu dedfrydu i gyfanswm o dros 30 o flynyddoedd yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau.

Cafodd gwerth bron i £500,000 o gocên ei ganfod fel rhan o'r ymchwiliad i'r giang, oedd yn gweithredu yn ardal Tonyrefail yn y Rhondda.

Dywedodd yr heddlu bod 1.5kg o gocên wedi ei ganfod mewn cyrchoedd ym Medi a Hydref 2015.

Yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd arweinwyr y grŵp, Jonathon Button ac Anthony Harris, eu dedfrydu i saith mlynedd yn y carchar yr un.

'Difetha cymunedau'

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod sgyrsiau rhwng aelodau'r grŵp wedi eu recordio ers mis Mehefin 2014.

Roedd yr unigolion wedi defnyddio cerbydau gwahanol i gludo eu hunain, y cyffuriau a'r arian o amgylch yr ardal, ac roedd llawer iawn o gocên yn cael ei gadw mewn tŷ yn Nhonyrefail.

Daeth swyddogion o hyd i offer ar gyfer pwyso a phecynnu'r cyffur, yn ogystal ag arian a dau gar.

Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Cafodd aelodau'r grŵp eu recordio yn trafod y cynllwyn gan yr heddlu

Clywodd y llys bod dau aelod o'r grŵp wedi eu harestio ym mis Medi 2015, ond bod aelodau eraill wedi parhau i weithredu ar ôl hynny.

Roedd cyrch pellach ym mis Hydref a daeth swyddogion o hyd i fwy o gocên.

Ddydd Llun, cafodd 10 o bobl eu dedfrydu:

  • Jonathan Button, 26 o Donyrefail, saith mlynedd;
  • Anthony Harris, 22 o Donyrefail, saith mlynedd;
  • James Edwards, 28 o Donyrefail, 30 mis;
  • Rhys Bailey, 33 o Donyrefail, dwy flynedd (wedi ei ohirio);
  • Kieron Ashman, 27 o Donyrefail, dwy flynedd;
  • Jack Taylor, 22 o Bontypridd, 30 mis;
  • Michael Rogers, 53 o Donyrefail, dwy flynedd;
  • Liam Price, 23 o Donyrefail, 30 mis;
  • Craig Jarvis, 39 o Abertridwr, dwy flynedd;
  • William Ryan Evans, 28 o Donyrefail, pedair mlynedd a chwe mis.

Wrth eu dedfrydu, dywedodd y barnwr David Wynn Morgan bod y cynllwyn wedi ei gymell gan arian a bod cynllwyniau o'r fath "yn lledu drwy gymunedau mewn ffordd lechwraidd ac yn difetha'r cymunedau yna".

Bydd un aelod arall o'r grŵp yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach.