Ardal gefnogwyr i aros ar agor ar gyfer ffeinal Euro 2016

Ardal gefnogwyr Y Rhyl Image copyright Cyngor Sir Ddinbych

Bydd ardal gefnogwyr yn Sir Ddinbych ar agor ddydd Sul fel y gall pobl leol wylio rowndiau terfynol Euro 2016 a Wimbledon yno.

Roedd Y Rhyl yn un o nifer o drefi ledled Cymru i sefydlu ardal gefnogwyr ar gyfer y gêm yn rownd gynderfynol Euro 2016 yn erbyn Portiwgal ddydd Mercher.

Yn dilyn ceisiadau gan bobl leol, bydd ar agor o 13:00 ar gyfer ffeinal Wimbledon cyn rownd derfynol Euro 2016 am 20:00.

Roedd mwy na 7,500 o gefnogwyr wedi mynychu'r ardal gefnogwyr yn Arena Ddigwyddiadau Y Rhyl i wylio ymgyrch Euro 2016 Cymru'n dod i ben.