Gwrthdrawiad: Gyrrwr beic modur tair olwyn wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Heol PlantationFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Plantation yn Y Drenewydd

Mae gyrrwr beic modur tair olwyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Y Drenewydd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Plantation yn y dref brynhawn Gwener.

Y beic modur oedd yr unig gerbyd yn y gwrthdrawiad, a bu farw'r dyn oedd yn ei yrru o'i anafiadau.

Does dim mwy o wybodaeth ar hyn o bryd, ac mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio i unrhyw dystion i gysylltu â'r llu.