Lluniau: Croeso nôl!

Cyhoeddwyd

Mae wedi bod yn fis bythgofiadwy i Gymru wrth i'r tîm pêl-droed cenedlaethol gyrraedd rownd gyn-derfynol Euro 2016.

Mae carfan Chris Coleman wedi codi ysbryd y genedl ac ar ddydd Gwener 8 Gorffennaf bu dathliadau mawr yng Nghaerdydd wrth iddyn nhw ddod adref o Ffrainc.

Dyma rai o uchafbwyntiau'r diwrnod trwy lens Sioned Birchall, ffotograffydd Cymru Fyw yn y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,
Aaron Ramsey yn tynnu hunlun a un o dyrrau Castell Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Dal y foment ar gof a chadw
Disgrifiad o’r llun,
Chris Coleman a'i gyd-hyfforddwr Osian Roberts yn camu allan o'r castell
Disgrifiad o’r llun,
Bws y garfan yn mynd am y stadiwm
Disgrifiad o’r llun,
Y garfan ar ben y bws, gyda Bale, Ramsey a Hennessey yn arwain ar y blaen
Disgrifiad o’r llun,
Môr o goch ar Heol Santes Fair
Disgrifiad o’r llun,
Bloeddiwch dros Gymru!
Disgrifiad o’r llun,
Plant wedi gwirioni wrth weld eu harwyr yn mynd heibio
Disgrifiad o’r llun,
Fe drodd Caerdydd yn goch am y diwrnod
Disgrifiad o’r llun,
Pawb yn rhan o gyffro'r diwrnod
Disgrifiad o’r llun,
Tai yn cael eu haddurno ar hyd y daith
Disgrifiad o’r llun,
Yr Heddlu yn dangos eu teyrngarwch
Disgrifiad o’r llun,
Nicky Wire a Sean Moore o'r Manic Street Preachers yn camu i'r llwyfan
Disgrifiad o’r llun,
Y Manics Street Preachers yn canu 'Together Stronger' ac ambell glasur arall
Disgrifiad o’r llun,
Y Galactico Gareth Bale yn cael ei gyflwyno i'r dorf
Disgrifiad o’r llun,
James Collins ar ei ffordd i ganol y cae
Disgrifiad o’r llun,
Cefnogwyr o bob oed yn mwynhau yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Y chwaraewyr canol cae Aaron Ramsey a Jonny 'Joniesta' Williams
Ffynhonnell y llun, BBC Sport