Gyrrwr fan hufen iâ wedi marw ar ôl i'r fan daro wal
- Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr fan hufen iâ wedi marw ar ôl i'r fan daro wal gardd yn ardal Abertawe.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 14:00 ddydd Iau ar ffordd Penplas ym Mlaenymaes.
Aeth y gyrrwr, John Bellham oedd yn 60 oed o Dreforys, i'r ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach.
Mae Heddlu'r De yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101.