Cwis: Pa dref?
- Cyhoeddwyd
Cwis gyda gwahaniaeth i chi heddi'.
Mae'n rhaid i chi ddyfalu enwau'r trefi dros Gymru gyfan, o'r cliwiau hyn, a hynny'n fuan!
Pob lwc.
1. Ar dop y mynydd mae 'na sŵ! Un da, a dim rhy fawr. A phier sy'n disgyn mewn i'r môr, jest draw o Benmaenmawr.
2. Ger canolfan technoleg amgen, a 'dyw hi ddim yn sioc, ei bod hi'n gartref i hen senedd-dŷ. A wompyn mawr o gloc!
3. Gwaith tun sydd yn gyfrifol am lysenw'r dref fach hon. A lliw sy'n eithaf llachar, a phêl sydd ddim yn gron.
4. Rhyw ddeugain milltir o Gaerdydd, ag ugain bant o'r Fenni. Gydag eglwys gadeiriol hynod braf, ym mha dref ydw i?
5. Tref glan môr ar Benrhyn Llŷn, ond pa dref ddwedech chi? Man geni Albert Evans-Jones, neu Cynan i chi a fi.
6. Gwnaeth eglwys yng Nglyn Rhosyn, droi'n Gadeirlan swmpus. A tyfodd pentref gwledig, bach yn ddinas anrhydeddus.
Straeon perthnasol
- 10 Mehefin 2016
- 1 Mai 2016