Gyrrwr yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd

Kyle Kennedy
Mae dyn o Gaerdydd wedi ei gael yn euog o ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wedi gwrthdrawiad yn y brifddinas nos Galan diwethaf.
Roedd Kyle Kennedy, 29 oed, yn gwadu achosi marwolaeth Simon Lewis a'i blentyn, oedd heb ei eni, drwy yrru'n beryglus, ond roedd wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth y ddau drwy yrru'n esgeulus.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Nos Galan yn Lamby Way, Tremorfa.
Roedd Simon Lewis yn y car gyda'i wraig a'i ferch
Roedd Simon Lewis yn gyrru ei gar Daihastu Sirion a char Peugeot 307 a Ffordd Lamby.
Hefyd yn y car oedd ei wraig feichiog, Amanda, a'u merch tri mis oed, Summer.
Cafodd bachgen Amanda a Simon ei eni'n gynnar yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 3 Ionawr, ond bu farw'n ddiweddarach yr un diwrnod.