Cofio brwydr Coedwig Mametz

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Gwasanaeth Mametz

Cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal ym Mametz ddydd Iau, i gofio'r cannoedd o filwyr o Gymru a gafodd eu lladd yn ystod y Rhyfel Mawr.

Yn arwain dirwyaeth o Gymru roedd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones.

Yno hefyd roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, Leanne Wood o Blaid Cymru, Andrew RT Davies, Ceidwadwyr Cymru a Neil Hamilton o UKIP.

Daeth torf o bobl at ei gilydd o amgylch y safle lle dechreuodd milwyr o Gymru eu cyrch i geisio cipio'r goedwig oddi wrth y gelyn.

Disgrifiad o’r llun,
Daeth cannoedd i'r gwasanaeth coffa ym Mametz
Disgrifiad o’r llun,
Pentref Mametz yn croesawu'r Cymru drwy chwifio baneri'r ddraig goch ar y strydoedd

Cafodd tua 4,000 o filwyr o Gymru eu lladd neu eu hanafu yn ystod pum diwrnod o frwydro.

Y bwriad ar 7 Gorffennaf 1916 oedd cipio Coedwig Mametz - y goedwig fwyaf yn ardal y Somme - fel rhan o'r cyrch enfawr i geisio chwalu llinell amddiffynnol yr Almaenwyr.

Roedd y milwyr yn 1916 yn lowyr, yn ffermwyr ac yn weithwyr banc, ac wedi ymuno gyda'i gilydd fel criw o ffrindiau i'r 38ain Adran (Gymreig).

Dyma oedd "Byddin Gymreig" chwedlonol David Lloyd George.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cofeb Gymreig Mametz gafodd ei hariannu drwy gyfraniadau cyhoeddus

Fe fydd yna hefyd seremonïau yng Nghymru i gofio am y frwydr union 100 mlynedd yn ôl.

Yng Nghaernarfon, bydd Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Cymreig yn gwahodd plant ysgol i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cofio'r Rhyfel Mawr.