Creu crys mawr Cymru i ddathlu llwyddiant tîm Coleman
- Cyhoeddwyd

Mae cwpl o Wynedd wedi mynd ati i greu crys pêl-droed enfawr i ddathlu llwyddiant Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2016.
Fe aeth Lynne Humphreys McCrickett a'i gwr, John, ati i wnïo'r crys y 6.5m (21tr) wrth 4.5m (15troedfedd) ddydd Llun.
Mae Lynne Humphreys McCrickett, sy'n yn wreiddiol o Lantwymyn ger Machynlleth, newydd symud yn ôl o Lundain i fyw yn Ninas Mawddwy.
Bu hi'n gweithio fel cynllunydd a thorrwr dillad i nifer o gwmniau yn Llundain.
Mae'r ddau yn bwriadu arddangos y crys tu allan i'w cartref yn Minllyn, ond hefyd wedi derbyn ceisiadau i hongian y crys ar gloc tref Machynlleth neu ar ochr bryniau cyfagos.
Fe fydd Cymru yn herio Portiwgal yn rownd gyn-derfynol y twrnamaint nos Fercher.
"Rydym yn byw mewn ardal rygbi yma," meddai Mrs Humphreys-McCrickett.
"Mae gwylio pêl-droed yn drosedd fan hyn!"
"Ond mae lluniau o'r crys wedi mynd yn wallgo ar y Facebook," ychwanegodd.
"Mae ceir yn stopio tu allan i'r ty i dynnu lluniau ac mae'r plant ysgol lleol yn dod i weld."
Dywedodd y cwpl y byddai crys Cymru yn aros y tu allan i'w cartref ar gyfer y rownd gyn-derfynol , ond os yw Cymru yn ennill ac a drwodd i'r rownd derfynol ddydd Sul, maent yn bwriadu mynd a'r crys ar daith.