Llun o Bale gan ferch ysgol wedi mynd yn feiral ar y we

bale Image copyright Gwen Johnson

Mae braslun o Gareth Bale yn cofleidio ei ferch fach ar y cae yn dilyn buddugoliaeth Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon wedi mynd yn feiral.

Cafodd y llun pensil gan Gwen Johnson, disgybl 15 oed yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, ei ysbrydoli ar ôl iddi weld delweddau o'r seren gyda'i ferch yn dilyn y gêm dros wythnos yn ôl.

Fe ddarlledwyd y lluniau o Bale a'i ferch hynaf, Alba Violet, sy'n dair oed, ar draws y byd wrth iddi redeg ar y cae ym Mharc y Tywysogion, Paris, gan gloriannu un o'r adegau mwyaf arbennig o gystadleuaeth Euro 2016 hyd yma.

Image copyright Reuters

Dywedodd Gwen, o bentref Llanfechell, Ynys Môn, sydd hefyd yn astudio celf yn yr ysgol: "Rydw i wedi bod yn gwylio Cymru'n gwneud yn dda, ac wedi gweld fideos o Bale a'i ferch yn chwarae a rhedeg o gwmpas ar y cae, ac roedd hynny mor ciwt."

Mae hi nawr yn gobeithio y bydd Bale ei hun yn cael gweld y gwaith drwy wefannau cymdeithasol.

Mae'r portread eisoes wedi cael ei rannu dros 5,000 o weithiau ers i'w mam ei gyhoeddi gyntaf ar y Facebook nos Sadwrn.