Rhyddhau dyn o'r ddalfa wedi marwolaeth yn Y Barri

bari

Mae dyn wedi cael ei ryddhau o'r ddalfa yn dilyn marwolaeth yn Y Barri.

Bu farw dyn 27 oed mewn stryd yn y dref yn dilyn digwyddiad yn oriau man bore Sadwrn, meddai Heddlu De Cymru.

Roedd swyddogion wedi amgylchynu'r ardal ger Broad Street ar ôl y digwyddiad a ddigwyddodd tua 04:00.

Yn ôl yr heddlu maen nhw wedi rhyddhau dyn 29 oed ond yn parhau i holi gŵr 42 oed.