Euro 2016: Buddugoliaeth 'wych' Cymru yn erbyn Gwlad Belg

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Getty Images
disgrifiad o’r llunDathlu wedi'r gôl gyntaf

Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru ar ben eu digon wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg o 3-1 nos Wener.

Fe wnaeth tîm Chris Coleman greu hanes drwy guro'r Belgiaid yn rownd yr wyth olaf yn y Stade Pierre Mauroy yn Lille.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Gymru gyrraedd y rownd gyn derfynol mewn prif gystadleuaeth.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu y bydd y tîm cenedlaethol yn wynebu Portiwgal yn Lyon nos Fercher, 6 Gorffennaf.

Dywedodd Julian Richards, 31, o Bont-y-pŵl: "Mae'n teimlo'n wych.

"Rydym wedi credu yn y rownd yr 16 olaf a dwi'n meddwl bod hynny am ddigwydd yn y rownd gyn derfynol hefyd. Mae credu yn arwain at hyder."

Dywedodd Geraint Thomas, 51, o Borthaethwy, oedd yn ardal y cefnogwyr yn Lille: "Yma gyda'r cefnogwyr go iawn, mae'n werth yr £200 y byddai rhywun wedi talu am docyn."

Ac roedd yn hyderus iawn o obeithion Cymru yng ngweddill Euro 2016:

Ychwanegodd: "Y penwythnos nesa' rydym yn mynd i'r rownd derfynol. Anghofiwch am Bortiwgal, rydym yn mynd i'r rownd derfynol."

ffynhonnell y llun, EPA
disgrifiad o’r llunChwaraewyr Cymru yn dathlu wedi'r chwiban ola

Gwlad Belg oedd yn pwyso ar y dechrau ac fe ddaeth y gôl gyntaf o fewn 15 munud, gydag ergyd anhygoel gan Radja Nainggolan, yn curo Wayne Hennessey o 30 llath gyda'i droed dde.

Ond fe darodd Cymru yn ôl gyda'r capten Ashley Williams yn sgorio gyda'i ben o groesiad o'r ochr dde wedi 30 munud.

Fe gafwyd dechreuad digon tebyg i'r hanner cyntaf yn yr ail hanner, gyda Hazard a Fellaini yn agos at sgorio.

Daeth ail gôl y gêm gan Hal Robson-Kanu, yr ymosodwr yn troi ei ddyn ac yn llwyddo i roi'r bêl heibio i Courtois yn y gôl.

ffynhonnell y llun, Reuters

Roedd y drydedd yn annisgwyl, peniad gwych gan yr eilydd Sam Vokes a hynny yn golygu bod dim gobaith i Wlad Belg ddod yn ôl.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru wedi cyrraedd y pedwar tîm olaf am y tro cyntaf erioed.

Portiwgal yw'r tîm nesaf fydd Cymru yn wynebu yn Lyon nos Fercher.

Ond ar ôl i Aaron Ramsey a Ben Davies gael cardiau melyn yn ystod y gêm mi fydd yn rhaid i'r tîm rhoi popeth unwaith eto er mwyn cael buddugoliaeth arall.