Ryan Giggs yn gadael Manchester United

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Giggs chwarae ei gêm broffesiynol gyntaf ym Mawrth 1991 yn erbyn Everton

Mae Ryan Giggs yn gadael Manchester United wedi 29 o flynyddoedd gyda'r clwb.

Roedd y Cymro wedi bod yn gweithio fel is-hyfforddwr yn y blynyddoedd diwethaf, yn ystod cyfnodau David Moyes a Louis Van Gaal wrth y llyw.

Ond wedi penodiad Jose Mourinho i swydd y rheolwr, fe fethodd Giggs â'r clwb ddod i gytundeb am swydd newydd.

Mae disgwyl i Mourinho benodi ei gyfaill Rui Faria fel is-hyfforddwr, ac mae'n debyg y bydd United yn cadarnhau ymadawiad Giggs yn y dyddiau nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Giggs yn aelod o'r garfan wnaeth ennill yr Uwchgynghrair y tro cyntaf cafodd y bencampwriaeth ei chynnal.

Fe wnaeth Giggs, sy'n enedigol o Gaerdydd, ymuno ag academi United yn 14 oed, gan droi'n broffesiynol yn 1990.

Fe chwaraeodd 963 gêm dros y clwb, cyn iddo droi at hyfforddi.

Y llynedd roedd nifer o adroddiadau yn cysylltu Giggs gyda swydd rheolwr Abertawe.