'Y ddraig goch ar 'y nghrys yw'r cyfan dwi angen!'
Rhodri Tomos
Gohebydd Cymru Fyw yn Ffrainc
- Cyhoeddwyd

"Mae gen i'r ddraig goch ar 'y nghrys... dyna'r cyfan ydw i angen!"
Geiriau Gareth Bale mewn cynhadledd newyddion ddydd Mercher wrth ateb y cwestiwn 'Beth yw'ch cymhelliad chi i chwarae dros Gymru?'
Pan fydd cefnogwyr Cymru sydd eisoes wedi cyrraedd Lille yn clywed y geiriau, fe fydd yr hynt a helynt i gyrraedd y ddinas, sydd mor brysur gyda phethau amgenach na phêl-droed y penwythnos hwn, yn werth y cyfan.
Mae rhai yma'n barod, ac yma i fwynhau. Fel y dywedodd Tracy Shanahan o Dreffynnon: "Does dim pwysau arnom ni...mae gan Belg dim cryf iawn.
"Ry'n ni eisoes wedi mynd yn bellach nag unrhyw dim arall o Brydain, ac yn bellach na Sbaen (y deiliaid), ond wrth gwrs fe all unrhyw beth ddigwydd mewn pêl-droed."
Mae Tracy a chriw o ffrindiau yn gorfod aros ymhell o Lille ar ôl clywed y byddai lle i aros i 12 ohonyn nhw ar noson y gêm yn mynd i gostio dros £2,000.
Gyda digwyddiad i gofio canmlwyddiant rhyfel y Somme yn dechrau, nid yw'r pris yn anghyffredin.
Mae'r cefnogwyr hefyd wedi sylweddoli y bydd Ffrancwyr yr ardal yn eu herbyn hefyd.
Dywedodd Mark Watkins: "Fe ges i syndod clywed y Ffrancwyr yn dweud y bydden nhw'n cefnogi Belg, oherwydd 'dyna pwy yw ein cymdogion agosa'.
"Nes i ddweud mai Lloegr yw'n cymdogion agosa ni ond ein bod ni'n cefnogi Gwlad yr Ia nos Lun!
"Ond dwi'n deall hefyd oherwydd mae ardal Fflandrys i weld yn tynnu'r bobl at ei gilydd yma."
Mae gan un tŷ bwyta yn Lille fwy o brydau Cymreig ar y fwydlen na rhai Belgaidd, ond dyw hynny ddim yn golygu cefnogaeth i Gymru ar y cae.
Dywedodd Jordan Chevaux o fwyty QG Brasserie: "Tasech chi'n gofyn ar draws Ffrainc, hwyrach bydde lot yn cefnogi Cymru.
"Ond yma yn y gogledd ry'n ni'n agos at y Belgiaid. Ry'n ni wedi mwynhau cael y Cymry yma cofiwch."
Mae Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed hefyd yn tynnu pobl at ei gilydd, ac fe fydd un nodyn trist i'w gofio nos Wener.
Ers buddugoliaeth Gwlad Belg yn erbyn Hwngari, bu farw un o gonglfeini FSF Belg, Erik Reynaerts, yn 50 oed, a hynny wythnosau yn unig wedi iddo golli ei wraig i ganser.
Mae Paul Corkery o FSF Cymru yn apelio ar bawb sy'n mynd i'r Stade Pierre Mauroy i ymuno mewn cymeradwyaeth er cof am Erik wedi 50 munud o'r gêm, fel arwydd o undod gyda FSF Gwlad Belg.
Diwedd y daith?
Y cwestiwn mawr mae'n debyg yw 'Ai dyma ddiwedd taith Cymru yn Ffrainc?'
Gydag ambell un yn darogan gêm agos iawn, dywedodd Tracy Shanahan: "Os aiff hi i giciau o'r smotyn, fe fydd angen paramedic arna i!
"Ond wedyn fydd o werth o os wnawn ni ennill.....dwi wastad wedi bod eisiau mynd i Lyon!"