Seintiau Newydd 2-1 Tre Penne

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Gareth hughes
disgrifiad o’r llunFy enillodd y Seintiau Gwpan Cymru, Cwpan y Gynghrair a Chynghrair Cymru yn 2015-16

Mae'r Seintiau Newydd wedi cipio buddugoliaeth yn eu gêm ragbrofol gyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Tre Penne o San Marino.

Scott Quigley sgoriodd y gyntaf i dîm Craig Harrison cyn i Stefano Fraternali wneud hi'n gyfartal i'r ymwelwyr.

Fe roddodd Jamie Mullan y Seintiau yn ôl ar y blaen cyn diwedd yr hanner cyntaf wedi gwaith da gan Quigley.

Bu Aeron Edwards o fewn trwch blewyn i'w gwneud hi'n 3-1, ond fe wnaeth golwr Tre Penne Mattia Migani arbediad da.