Disgwyl i Stephen Crabb ymgeisio i arwain y Ceidwadwyr

Stephen Crabb Image copyright Getty Images

Mae disgwyl i Stephen Crabb gyhoeddi ei fwriad i ymgeisio ar gyfer swydd arweinydd y Ceidwadwyr pan fydd David Cameron yn ymadael.

Fe anfonodd Mr Crabb, Aelod Seneddol Preseli Penfro, e-bost at aelodau Ceidwadol ddydd Mawrth yn datgan ei fwriad. Mae ganddo gefnogaeth yr ASau Simon Hoare, Maria Caulfield and Craig Williams.

Mae'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau 43 oed yn gyn Ysgrifennydd Cymru, ac er iddo gael ei eni yn Inverness. fe'i fagwyd ar ystâd dai cyngor ym Mhenfro.

Mae wedi cynrhychioli etholaeth Preseli Penfro ers 2005.

Yn ogystal â Mr Crabb, mae disgwyl i Boris Johnson a'r Ysgrifennydd Cartref Theresa May gystadlu am yr arweinyddiaeth.

Mae enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth yn agor Ddydd Mercher ac yn cau am hanner dydd ddydd Iau.

Os oes mwy na dau ymgeisydd yn ymgeisio, bydd etholiad yn cael ei gynnal ymysg ASau Torïaidd i ddidoli'r ymgeiswyr, a bydd dau enw yn cael eu rhoi gerbron yr aelodau. Bydd arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar 2 Medi.