Euro 2016: Rhybudd bod llety Lille yn 'brin a drud'

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun, Mae disgwyl iddi fod yn benwythnos prysur iawn yn Lille

Mae cefnogwyr sy'n bwriadu teithio i wylio Cymru yn rownd wyth olaf Euro 2016 wedi eu rhybuddio bod llety yn Lille yn "brin" ac yn "ddrud".

Mae gwestai eisoes yn brysur oherwydd bod y gêm ar ddydd Gwener 1 Gorffennaf, wrth i seremonïau i gofio Brwydr y Somme gael eu cynnal yn yr ardal.

Yn ôl Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed Cymru (FSF), mae pris rhai gwestai wedi codi i thua £325 y noson.

Gymaint yw'r diffyg ystafelloedd, mae un cwmni gwyliau'n defnyddio gwestai yng Ngwlad Belg ar gyfer cefnogwyr Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun, Yn y Stade Pierre Mauroy yn Lille y bydd gêm nesaf Cymru

Dywedodd Wonky Sheep Events: "Mae Lille wedi bod yn heriol i'w drefnu, nid yn unig oherwydd y diffyg rhybudd, ond oherwydd y seremonïau cofio hefyd.

"Rydyn ni wedi gorfod edrych dros y ffin yng Ngwlad Belg ac hyd yn oed wedyn mae'n anodd."

Roedd Brwydr y Somme yn un o'r mwyaf gwaedlyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Disgrifiad o’r llun, Mae nifer fawr o gefnogwyr wedi teithio i gefnogi Cymru yn Euro 2016 hyd yma

Dywedodd Paul Corkery, o FSF Cymru, bod y seremonïau yn Lille yn golygu bod gwestai yn brin iawn.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi mynd adref oherwydd gwaith, dwi'n meddwl y byddwn ni'n gweld lot o deithwyr sy'n dod am y dydd yn unig," meddai.

Bydd Cymru'n wynebu Gwlad Belg neu Hwngari yn y gêm nos Wener.

Fe gyrhaeddon nhw'r wyth olaf ar ôl curo Gogledd Iwerddon ym Mharis nos Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun, Mae Cymru yn yr wyth olaf wedi buddugoliaeth dros Ogledd iwerddon