Cynghrair y Cenhedloedd: Nodi 90 mlynedd

Cynghrair y Cenhedloedd Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Aelodau Cynghrair y Cenhedloedd yn ymweld ag Aberystwyth yn 1926

Mae cyfle i'r cyhoedd weld eitemau hanesyddol sy'n berchen i'r Cenhedloedd Unedig mewn arddangosfa arbennig yn Aberystwyth.

Mae'r achlysur yn cofnodi 90 mlynedd ers i Ymddiriedolaeth Ffederasiwn Cynghrair y Cenhedloedd ymweld â'r dre'.

Fe fydd yr arddangosfa, yn Llyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth, yn cynnwys lluniau ac erthyglau o'r cyfnod.

Yn 1926 Prifysgol Aberystwyth gafodd ei dewis ar gyfer cyngres arbennig i gofnodi'r Almaen yn ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.

Image copyright Aberystwyth University