Carchar am 26 mlynedd am lofruddio landlord Abertawe

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Alec Warburton (chwith) a David Ellis

Mae David Craig Ellis wedi ei ddedfrydu i 26 mlynedd o garchar am lofruddio ei landlord.

Dywedodd y barnwr Mr Robin Knowles fod hon yn llofruddiaeth a gafodd ei chyflawni gyda'r "disgwyliad o elwa o ganlyniad i'r farwolaeth".

"Roedd yn achos o ddifrifoldeb mawr. Roedd yna agweddau gwaethygol i'r achos. Mae rhain yn cynnwys cynllunio... a chuddio'r corff."

Dywedodd y barnwr y bydd dan glo am o leia' 26 mlynedd cyn y bydd yr awdurdodau'n ystyried ei ryddhau.

Fe wnaeth David Craig Ellis, 41 oed, daro Alec Warburton, 59 oed, yng nghefn ei ben gyda morthwyl yn ei gartre' yn Sgeti fis Gorffennaf 2015.