Dyn yn marw wedi i gar ddisgyn o glogwyn ym Mwnt

car clogwyn

Mae dyn wedi marw ar ôl i gar ddisgyn oddi ar glogwyn yng Ngheredigion.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i ddigwyddiad ym Mwnt ger Aberteifi am 19:50 ddydd Gwener 17 Mhehefin, yn dilyn adroddiadau fod car wedi disgyn o gae i waelod clogwyn.

Bu farw gyrrwr y car, dyn 42 oed o'r Gogledd, yn y fan a'r lle.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac maen nhw'n cael cefnogaeth gan swyddogion.

100 troedfedd

Cafodd yr heddlu help gan swyddogion o wylwyr y glannau a chymdeithas bad achub yr RNLI, ac fe gafodd dwy injan dân eu hanfon.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth eu bod yn deall fod y car wedi disgyn tua 100 troedfedd.

Does dim rhagor o wybodaeth wedi ei gyhoeddi am y dyn fu farw hyd yma.