Amgueddfeydd Cymru: Pleidlais arall
- Published
Mae staff amgueddfeydd Cymru sydd yn cynnal streic yn pleidleisio eto yn dilyn cynnig newydd.
Bydd pleidlais arall yn cael ei chynnal ymysg aelodau undeb y PCS yn dilyn cynnig gwell, allai arwain at ddod a diwedd i`r anghydfod sydd wedi para dwy flynedd.
Ers 28 Ebrill mae gweithwyr wedi cynnal streic mewn protest yn erbyn cynlluniau i newid y taliadau ar gyfer gweithio penwythnosau.
Fe wnaeth y streic arwain at bwysau gwleidyddol gyda mwy o arian yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru
Y cynnig gorau blaenorol oedd gwerth dwy flynedd a hanner o daliadau ychwanegol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwerth dwy flynedd a hanner arall o arian parod.
Gall staff gymryd hyn fel un taliad, neu nifer o daliadau dros bedair blynedd.
Yn ôl Amgueddfa Cymru, yn dibynnol ar faint o ddiwrnodau Sadwrn a Sul mae staff yn gweithio fe allai`r taliadau fod rhwng £163 a £20,000.
Bydd y bleidlais yn agor heddiw ac yn cau ddydd Gwener 24 Mehefin, ac mae arweinwyr yr undeb yn yr amgueddfeydd yn argymell derbyn y cynnig newydd.
Mae disgwyl i`r anghydfod barhau hyd nes y bydd canlyniad y bleidlais yn cael ei gyhoeddi.