Cymro a Saesnes yn dyweddïo o flaen Tŵr Eiffel

Darren and emma proposal Image copyright Darren Crandon

Bydd cwpwl gafodd eu geni ar naill ochr y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn dathlu'u dyweddïad yn ystod Euro 2016 drwy wylio'r gêm fawr ym Mharis.

Aeth Darren Crandon, 32 oed o Gaerdydd i lawr ar ei benglin o flaen Tŵr Eiffel yn ardal y cefnogwyr ddydd Sadwrn cyn buddigoliaeth Cymru yn erbyn Slofacia o 2-1.

Pan gytunodd ei gariad, Emma White, 24 oed o Brighton, i'w briodi fe floeddiodd y cefnogwyr pêl-droed o'u hamgylch mewn llawenydd.

Cwrddodd y ddau mewn bar yn Brighton a ddwy flynedd yn ôl, fe symudodd Ms White i Gymru.

Image copyright Darren Crandon
Image caption Darren ac Emma i fyny'r Tŵr Eiffel

Dywedodd Mr Crandon: " Ro'n i wedi cynllunio'r peth am ddeufis cyn y twrnamaint ac yn bwriadu gofyn y cwestiwn cyn gêm Lloegr a Chrymru.

"Ond gan bo ni'n dau wedi gwisgo i fyny ar gyfer y gemau agoriadol, fe es i â'r fodrwy da fi rhag ofn."

Fe roddodd Mr Candon wybod i griw teledu o'r Eidal a'r cefnogwyr yn y fanzone ger y Tŵr am ei gynlluniau.

" Ro'n i'n eitha nerfus gan wybod fod y camera arna i ond y ecseited ar yr un pryd.

"Pan wedodd hi 'ydw', roedd yn deimlad anhygoel a'r cefnogwyr o wahanol wledydd yn dathlu hefyd, rodd e'n rhwbeth sbesial,"meddai.

Mae Mr Crandon, sy'n beirianydd, yn darogan y bydd Cymru yn ennill o ddwy gôl i un, gyda Gareth Bale yn sgorio, tra bod ei ddyweddi yn credu taw cyfartal 1-1 fydd y sgôr.