Seland Newydd v Cymru: Charteris yn ôl i'r ail brawf

Luke Charteris Image copyright Getty Images
Image caption Luke Charteris wedi cael 40 cap i Gymru

Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi neud dau newid i'r tim ar gyfer yr ail gêm brawf yn erbyn Seland Newydd yn Wellington ddydd Sadwrn.

Mi fydd Liam Williams yn symud i'r asgell. Roedd y cefnwr yn un o sêr y prawf cynta yn Auckland, pan gollodd Cymru o 39 -21 ac mi fydd yn cymryd lle George North sydd wedi'i anafu.

Rhys Patchell fydd yn gwisgo rhif 15.

Bydd Luke Charteris yn ôl yn yr ail reng yn lle Bradley Davies fydd ar y fainc. Dyw Jake Ball ddim wedi'i gynnwys yn y 23.

Image copyright Getty Images
Image caption Rhys Patchell wedi'i ddewis i safle'r cefnwr ar gyfer yr ail brawf yn Wellington

Meddai Gatland: "Mae'n bwysig bod ni'n dechrau ddydd Sadwrn yn llawn hyder i chwarae am 80 munud, mewn gêm fydd unwaith eto yn un anferth."

Wrth son am y gêm brawf ddwethaf, fe ddywedodd: " Fe gadwon ni'r bêl a chwarae'n dda am gyfnodau ond mae'n rhaid ymestyn hwnna i 80 munud. Bydd e'n achlysur enfawr arall mewn stadiwm llawn yn Wellington ac ry ni'n benderfynol o adeiladu ar ein perfformiad yn y prawf cyntaf."

Mae yna ddau newid yng ngharfan y Crysau Duon. Mae Israel Dagg yn symud i safle'r cefnwr a Ben Smith fydd ar yr asgell i gymryd lle Julian Savea sydd yn colli ei le er iddo sgorio cais yn y prawf cynta.

Bydd Smith a Dagg yn ennill eu 50fed cap i'w gwlad tra bydd Sam Whitelock yn dod nôl i'r ail reng yn lle Luke Romano.

Bydd y gêm yn dechrau am 08.35bst a sylwebaeth lawn ar BBC Radio Cymru.