Cyhoeddi tîm rygbi Cymru i wynebu Chiefs nos Fawrth

Luke Charteris
Image caption Luke Charteris

Mae Warren Gatland wedi gwneud 15 o newidiadau i dîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn y Chiefs yn Seland Newydd nos Fawrth.

Luke Charteris fydd y capten y tro yma ac mi fydd Ellis Jenkins, wnaeth wisgo'r crys coch am y tro cyntaf ddydd Sadwrn yn dechrau fel blaenasgellwr.

Scott Williams a Tyler Morgan fydd y canolwyr gyda Matthew Morgan yn gefnwr. Eli Walker a Tom James fydd yr asgellwyr.

Rob Evans, Scott Baldwin a Tomas Francis yw'r chwaraewyr profiadol yn y rheng flaen.

Colli fu hanes Cymru yn y prawf cyntaf yn erbyn y Crysau Duon dydd Sadwrn. Y sgôr terfynol oedd 39-21.

Y tîm llawn: Matthew Morgan, Eli Walker, Tyler Morgan, Scott Williams, Tom James, Rhys Priestland, Gareth Davies; Rob Evans, Scott Baldwin, Tomas Francis, Jake Ball, Luke Charteris, Josh Turnbull, Ellis Jenkins, James King.