Dathliadau ar gyfer penblwydd y Frenhines yn 90 oed

Y Frenhines Image copyright Getty Images

Mae partïon mewn strydoedd a gerddi wedi bod yn cael eu cynnal yn ystod y penwythnos i ddathlu penblwydd y Frenhines yn 90 oed.

Er bod penblwydd y Frenhines 21 Ebrill mae rhai digwyddiadau i nodi'r garreg filltir wedi eu cynnal ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Mae yna ryw 60 o bartïon stryd yng Nghymru gyda nifer yng Nghaerdydd sydd yn golygu bod rhai strydoedd wedi cau. Ond mae rhai o'r partïon ar gyfer digwyddiad Y Cinio Mawr sef digwyddiad gan Brosiect Eden.

Image caption Parti stryd yn Yr Wyddgrug

Bwriad Y Cinio Mawr ydy cael cynifer o bobl a phosib i gael cinio gyda'u cymdogion unwaith y flwyddyn ym mis Mehefin.

Yn 2011 mi oedd yna 200 o geisiadau i gau ffyrdd fel bod pobl yn gallu dathlu priodas Kate Middleton a'r Tywysog William.