Lluniau'r Urdd: Dydd Mercher

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunMike Peters, prif leisydd The Alarm. Dywedodd Mike wrth Cymru Fyw: “Mae’n grêt bod yma a chael gweld yr ŵyl ‘ma sydd mor fywiog. Mae’r plant sydd yma’n gwneud fi feddwl bod dyfodol llewyrchus i Gymru a dwi mor falch fod y Steddfod yn fy ardal i. Mae pobl yn dueddol o anghofio am y ogledd ddwyrain Cymru felly mae’n wych i weld yr ardal yn cael sylw.”
disgrifiad o’r llunBlwyddyn 5/6 Ysgol Trewen, Castell Newydd Emlyn yn ymarfer eu stepiau
disgrifiad o’r llunKia Owen o’r Rhyl, Miss Galaxy Cymru. Enillodd y teitl fis Chwefror, ac mae Kia yn mynd allan i Orlando fis Awst i gynrychioli Cymru
disgrifiad o’r llunSean o Lanbedr Pont Steffan yn cael tro efo’r bwa a saeth
disgrifiad o’r llunDau frawd, sef Einion (3) a Llion (2) o Landdoged ger Llanrwst yn mwynhau eistedd ar hen dractor Ferguson
disgrifiad o’r llunAled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, yn cael ei gyfweld ar rhaglen Taro'r Post
disgrifiad o’r llunYdy Esyllt, 3 oed o Gaerdydd, wedi sylwi fod rhywun yn llygadu ei pizza?
disgrifiad o’r llunMa'r Eisteddfod yn dipyn o ffair!
disgrifiad o’r llunMerched blwyddyn 11 Ysgol Maes Garmon yn mwynhau mewn cadair enfawr
disgrifiad o’r llunArwel 'Gildas' yn perfformio ar y Maes heddiw
disgrifiad o’r llunEla 3 oed (ar y beic) a Magi 6 oed, o Lanelidan ger Rhuthun, yn trio beicio er mwyn creu bybls
disgrifiad o’r llunY Syr Wynff a Plwmsan newydd (Llŷr Evans ac Iwan Charles) Bydd sioe theatr newydd yn teithio eleni
disgrifiad o’r llunEnillydd y fedal ddrama, Lois Llywelyn Williams
disgrifiad o’r llunWal ddringo pentre’ Mistar Urdd
disgrifiad o’r llunMae Arthur o Bontllyfni wedi blino wedi diwrnod hir o Eisteddfota. Nos da!