Gwrthdrawiad Llanharan: Gyrrwr tractor wedi marw

Heddlu

Mae gyrrwr tractor wedi marw ar ôl i'w gerbyd droi drosodd yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd corff y dyn 50 oed ei ddarganfod am tua 15:00 ddydd Sul ar Hen Ffordd Llanharan, Llanharan.

Dywed yr heddlu mai'r tractor oedd yr unig gerbyd yn y gwrthdrawiad, a bu farw'r gyrrwr yn y fan a'r lle.

Mae'r dyn wedi cael ei adnabod yn ffurfiol ond nid yw ei deulu wedi cael gwybod, ac mae'r heddlu'n apelio am dystion.