Cwestiynu cymwysterau Dirprwy Archwilydd Cyffredinol
- Cyhoeddwyd

Mae mwy o gwestiynau wedi eu codi ynglŷn â chymwysterau Dirprwy Archwilydd Cyffredinol Cymru, Anthony Barrett, a pha mor gymwys yw rhain ar gyfer y swydd.
Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Emlyn Dole, yw'r diweddara' i godi'r cwestiwn ynglŷn â Mr Barrett.
Cafodd y ddau awdurdod lleol eu beirniadu mewn adroddiadau gan Mr Barrett, oedd yn ddweud eu bod wedi gweithredu y tu hwnt i'w pwerau mewn achosion yn ymwneud â chynlluniau taliadau cyflog.
Gwaith y Swyddfa Archwilio yw cadw golwg ar wariant cyhoeddus yng Nghymru, a Mr Barrett sy'n gyfrifol am awdurdodau lleol. Dywed y Swyddfa Archwilio bod cymwysterau Mr Barrett yn ddilys.
Mae Mr Barrett yn gyfrifydd cyllid cyhoeddus, yn archwilydd twyll ardystiedig ac mae wedi gweithio yn y sectorau preifat a chyhoeddus.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Emlyn Dole ei fod yn ceisio cael "darlun mwy clir ynglŷn â phenodiad Mr Barrett ac a oedd e'n gymwys i gael ei benodi yn y lle cyntaf, ac a oedd ganddo'r cymwysterau i fod yn 'archwilydd penodol' yn ôl gofynion y ddeddf".
Fe wnaeth Heddlu'r De gynnal ymchwiliad i Mr O'Sullivan a dau swyddog arall o gyngor Caerffili ar ôl adroddiad gan Mr Barrett yn 2013.
Roedd yr adroddiad yn dweud fod y swyddogion wedi derbyn codiad cyflog o hyd at 20% ond fod o broses wnaeth benderfynu hynny yn "anghyfreithlon".
Cafodd y tri eu cyhuddo gan yr heddlu, ond y llynedd penderfynodd barnwr i ollwng yr achos.
Yn 2014, ar ôl ymchwiliad penderfynodd Mr Barrett fod cynghorau Sir Penfro a Sir Gaerfyrddin wedi gweithredu yng 'anghyfreithlon' neu y tu hwnt i'w pwerau wrth newid amodau cyflog y ddau brif weithredwr, Bryn Parry-Jones a Mark James.
Roedd y ddau wedi derbyn caniatâd i newid eu trefniadau taliadau pensiwn er mwyn osgoi taliadau treth posib.
Ar ôl adroddiad Mr Barrett fe ddywedodd y ddau gyngor eu bod yn rhoi'r gorau i'r trefniadau newydd ond yn cwestiynu canfyddiadau'r adroddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Archwilydd Cyffredinol Cymru: "Dyw cymwysterau Anthony Barrett fel archwilydd penodol ar y pryd ddim yn codi cwestiynau am ddilysrwydd y camau a gymerodd mewn cysylltiad â unrhyw gorff llywodraeth cyhoeddus. Mae pob adroddiad a thystysgrif gafodd eu cyhoeddi gan Anthony Barrett yn ddilys."