Disgwyl ethol Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru
Tomos Livingstone
Uned Wleidyddol, BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Carwyn Jones yn cael ei gadarnhau'n Brif Weinidog yn y Senedd nes ymlaen ddydd Mercher ar ôl taro bargen gyda Phlaid Cymru.
Dyma'r ail ymgais i gadarnhau enwebiad Mr Jones ers yr etholiad, wedi i Lafur ennill 29 o'r 60 sedd yn y Senedd.
Gorffen yn gyfartal wnaeth y bleidlais gyntaf i gadarnhau Mr Jones wythnos ddiwethaf, gyda'r Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams yn cefnogi'r arweinydd Llafur, a'r pleidiau eraill i gyd yn cefnogi arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Wedi trafod rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, mae'r ddwy ochr wedi dod i gytundeb, er bod y naill a'r llall yn mynnu nad clymblaid na chwaith trefniant ffurfiol yw hwn.
Gweithio ar y cyd
Fe fydd tri phwyllgor newydd yn cael eu ffurfio i'r ddwy blaid drafod gweithio ar y cyd ar gyllideb Llywodraeth Cymru, deddfwriaeth a'r cyfansoddiad.
Ac fe fydd gwaith ar y cyd yn mynd rhagddo er mwyn creu Banc Buddsoddi i Gymru, comisiwn cenedlaethol ar isadeiledd, cynllun i gynyddu nifer y meddygon teulu a hefyd creu cronfa triniaethau newydd yn y Gwasanaeth Iechyd.
Mae bwriad i gyflwyno newidiadau hefyd ym maes gofal plant a phrentisiaethau.
Ond does dim cytundeb ar y cynllun i godi traffordd newydd i'r de o Gasnewydd. Mae'r blaid Lafur o blaid, gyda Phlaid Cymru yn chwyrn yn erbyn.
'Gwrthblaid effeithiol'
Dywedodd Ms Wood fod Plaid Cymru yn "edrych ymlaen at fod yn wrthblaid effeithiol dros y pum mlynedd nesaf".
Mae disgwyl i Mr Jones annerch ACau ar ôl y bleidlais brynhawn Mercher.
Dywedodd Simon Thomas AC Plaid Cymru wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru fod y cytundeb wedi bod yn llwyddiant i Blaid Cymru gan sicrhau nifer o'u haddewidion oedd yn eu maniffesto etholiadol.
Ar ben hynny, meddai, nid oedd ei blaid wedi addo eu cefnogaeth i Lafur ar gyfer pleidleisiau yn y dyfodol pe bai anghytuno rhwng y pleidiau.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt nad oedd Llafur wedi gorfod ildio unrhyw un o'u haddewidion etholiadol er mwyn sicrhau'r cytundeb.
"Rwy'n rhagweld y byddwn yn cyflawni'r addewidion oedd yn ein maniffesto yn ystod y Cynulliad hwn," meddai.
Ond dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y grŵp Ceidwadol: "Er gwaetha'r holl sôn am newid a chyfnod newydd mewn gwleidyddiaeth, yr unig beth i ddigwydd yw'r un hen Blaid Cymru, yn cloi eu hunain i ffwrdd a dod i gytundeb clud â'u hen ffrindiau yn y blaid Lafur."
Mae plaid UKIP yn bwriadu enwebu un o'u saith AC i fod yn Brif Weinidog yfory, er bod hynny'n groes i reolau'r Cynulliad.