Araith Frenhines yn cynnwys Mesur Cymru

Wrth i wleidyddion wrando ar gynnwys Araith y Frenhines ddydd Mercher, Gohebydd Seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr sy'n amlinellu taith Mesur Cymru hyd yma.

Araith y Frenhines

Fe fydd cynlluniau ar gyfer datganoli rhagor o bwerau i Gymru yn cael eu cyflwyno i Dŷ'r Cyffredin y flwyddyn nesa, ar ôl i amlinelliad ohonyn nhw gael ei gynnwys yn Araith y Frenhines ddydd Mercher.

Bwriad Mesur Cymru yw rhoi pwerau newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol dros ynni, trafnidiaeth ac etholiadau.

Fe fydd yn ceisio rhoi diffiniad mwy clir o bwerau'r Cynulliad a phwerau San Steffan.

Nôl yn Hydref 2015 bwriad Ysgrifennydd Cymru wrth gyhoeddi mesur drafft oedd sicrhau 'setliad datganoli cryfach, cliriach a thecach, a fydd yn sefyll prawf amser.'

Ond prin oedd y gefnogaeth i'r mesur drafft. Yn hytrach, roedd geiriau fel 'sarhad ar Gymru' a 'cham yn ôl' yn cael eu defnyddio i'w ddisgrifio gan y pleidiau yng Nghymru.

Roedd hwn i fod yn fesur a fyddai'n rhoi mwy o rymoedd i Lywodraeth y Cynulliad, gan ddatganoli meysydd fel ynni, trafnidiaeth ac etholiadau, a'i gwneud hi'n gliriach beth sydd wedi'i ddatganoli neu beidio.

Ond yn hytrach, roedd yna bryder am nifer o bethau:

  • Ei fod yn or-gymhleth, gyda'r rhestr o bwerau wedi'u cadw yn ôl - oedd i fod i wneud yr hyn sydd wedi ei ddatganoli'n fwy eglur - yn llawer rhy hir;
  • Ei fod yn torri ar rym gweinidogion, drwy orfodi Llywodraeth Cymru i brofi bod mesur yn angenrheidiol os oedd o'n golygu newid mewn cyfraith droseddol;
  • Y byddai'n rhaid cael caniatâd gan Lundain cyn pasio rhai deddfau.

Yn sicr, nid y consensws trawsbleidiol yr oedd Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Stephen Crabb, wedi'i obeithio.

Felly, wedi cryn bwysau a dadlau brwd, ym mis Chwefror 2016, fe gyhoeddodd y byddai yna oedi cyn bwrw ymlaen ymhellach er mwyn cyflwyno newidiadau.

Mae'r oedi bron drosodd, ac fe fydd yna Fesur Cymru ddiwygiedig yn rhan o Araith y Frenhines ddydd Mercher, gyda'r bwriad o'i gyhoeddi yn y misoedd nesaf.

A 'da ni'n gwybod eisoes y bydd yna newidiadau sylweddol i'r mesur drafft.

Image caption Alun Cairns sydd wedi olynnu Stephen Grabb yn Ysgrifennydd Cymru.

Efallai bod y wynebau yn Swyddfa Cymru wedi newid, ond fe fydd Alun Cairns yn parhau gyda'r newidiadau gafodd eu cyhoeddi gan Stephen Crabb.

Felly fe fydden nhw'n lleihau ar y meysydd sydd wedi'u cadw yn ôl, gan ei gwneud yn gliriach beth sydd wedi'i ddatganoli, a chael gwared â'r fiwrocratiaeth fyddai wedi cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i greu cyfreithiau newydd.

Fe fydd yna addewid hefyd i edrych ymhellach ar yr awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru, er mwyn delio â'r gwahaniaeth cynyddol sy'n datblygu mewn cyfreithiau yng Nghymru a Lloegr.

Mae Swyddfa Cymru yn hyderus eu bod nhw wedi gwneud gwell job ohoni y tro yma.

Ond bydd rhaid aros am y manylion i weld a fydd y fersiwn hon yn plesio'r pleidiau eraill, neu a fydd yn ailgynnau'r drafodaeth danllyd ynglŷn â dyfodol datganoli yng Nghymru.