Dynes 82 wedi marw ar ôl cael ei tharo gan fws

Greyfriars road Image copyright Google

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad angheuol rhwng bws a phensiynwr yng Nghaerdydd.

Cafodd y ddynes 82 oed ei tharo gan un o gerbydau cwmni Bws Caerdydd y tu allan i westy'r Hilton tua 11:15 ddydd Mawrth.

Cafodd y fenyw ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle bu farw yn ddiweddarach.

Bu ffyrdd yr ardal wedi cau am dair awr wedi'r digwyddiad.

Mae ei theulu wedi cael gwybod ac mae swyddog yr heddlu yn cynnig cymorth iddynt.

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 neu'n ddienw ar 0800 555 111 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 1600178296.