Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad A5 ger Capel Curig

A5 Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5 ger Hostel Plas Curig

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Eryri fore Mawrth.

Cafodd yr heddlu, criwiau ambiwlans a'r gwasanaeth tân eu galw i'r A5 ger Capel Curig am 08:39.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd, Seat Leon coch a Mercedes arian, ger Caffi Siabod.

Bu farw gyrrwr y Seat yn y fan a'r lle. Ni chafodd unrhyw un arall anafiadau difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon parafeddyg mewn cerbyd ymateb cyflym, dau ambiwlans ynghyd â dau ambiwlans awyr i'r safle.

Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad wrth i'r heddlu ymchwilio.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth, a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda nhw ar 101.