Rhybudd AS am ddyfodol cynllun yr M4 ger Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae aelod seneddol Llafur wedi rhybuddio na ddylai "gemau pleidiol gwleidyddol" ddifetha cynllun i ddatblygu ffordd osgoi'r M4 i'r de o Gasnewydd.
Daw'r rhybudd gan Paul Flynn AS wrth i drafodaethau rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru dros benodi prif weinidog yn y Senedd barhau.
Mae Plaid Cymru wedi dweud na fyddai'n fodlon dod i gytundeb gyda Llafur os byddai'r blaid yn bwrw ymlaen gyda'r cynllun, sy'n cael ei adnabod fel cynllun y llwybr du.
Mae Mr Flynn, AS dros Orllewin Casnewydd, yn dweud y byddai cynllun y llwybr glas, sy'n cael ei ffafrio gan Blaid Cymru, yn gwneud y ddinas yn "uffern o draffig".
Llwybr du a glas
Hoff opsiwn y blaid Lafur ydi adeiladu traffordd chwe lôn newydd, ar gost o £1.1bn, fyddai'n torri ar draws pum safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ar lefelau Gwent.
Mae Plaid Cymru, UKIP ac ymgyrchwyr amgylcheddol yn credu mai'r dewis gorau fyddai gwella'r ddarpariaeth i drafnidiaeth sy'n bodoli'n barod yng Nghasnewydd, gan gynnwys gwella ffordd yr A48 ar hyd cyrion deheuol y ddinas.
Wrth ysgrifennu ar ei flog, dywedodd Mr Flynn: "Gweinidog o Blaid Cymru danseiliodd yr arian y tro diwethaf y cafodd ffordd osgoi ei chynllunio", gan gyfeirio at benderfyniad y dirprwy brif weinidog Ieuan Wyn Jones yn 2009.
Er na wnaeth Mr Flynn gyfeirio'n uniongyrchol at y trafodaethau ym Mae Caerdydd, ychwanegodd: "Ni ddylai gemau pleidiol gwleidyddol ddifetha penderfyniad fyddai'n cynnig rhyddhad i ddau ran o dri o economi Cymru a'r diwydiant twristiaeth a lleihau llygredd sy'n lladd."
'Arian yn diflannu'
Honnodd yr AS y byddai Llywodraeth Prydain yn ymateb i unrhyw benderfyniad i ddileu cynllun y llwybr du trwy ganslo hawl Llywodraeth Cymru i fenthyg arian ar gyfer cynllun yr M4.
"Fe fyddai'r arian i bob pwrpas yn diflannu", meddai.
Dywedodd y byddai cynllun y llwybr glas yn dod a thagfeydd traffig yn ôl i'r ddinas fel y rhai oedd yn bodoli cyn i Ffordd Dargyfeirio'r De agor yn 2004, ac y byddai gwaith y ffordd honno o gyfeirio trafnidiaeth "o'r dwyrain i'r gorllewin, o'r gogledd i'r de" yn cael ei ddinistrio.
Byddai hyn yn gwneud Casnewydd yn "uffern o draffig a llygredd".
Ychwanegodd fod y llwybr glas yn hoff ddewis "pobl o rannau eraill yng Nghymru sy'n awchu i gydio yn y briwsion petai'r llwybr du yn cael ei anghofio".