Dechrau da i fowlwyr Morgannwg yn erbyn Sir Gaerloyw

Graham Wagg Image copyright Getty Images

Bu hi'n ddiwrnod cyntaf llwyddiannus i Forgannwg yn erbyn Sir Gaerloyw ym Mryste ddydd Sul, wrth i'r tîm cartref gael eu cadw i 262 o rediadau.

Fe fowliodd Morgannwg yn dda, gyda Graham Wagg a Timm van der Gugten yn hawlio tair wiced yr un.

Dim ond George Hankins o Sir Gaerloyw lwyddodd i wneud unrhyw argraff o'r tîm cartref.

Llwyddodd Jacques Rudolph a Will Bragg i roi 81 o rediadau am ail wiced Morgannwg.