Teitl Prydeinig i baffiwr o'r Barri

selby Image copyright PA

Fe ddaeth y paffiwr pwysau plu, Andrew Selby, y bocsiwr cyflymaf yng Nghymru i ennill teitl Prydeinig, gyda buddugoliaeth yn erbyn Louis Norman yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Dyma'r pumed gornest i'r Cymro 27 oed o'r Barri fel ymladdwr proffesiynol, ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym mis Hydref 2015.

Nid oes yr un ymladdwr Cymreig wedi hawlio'r teitl mewn cyn lleied o amser ers troi'n broffesiynol.

Roedd gan Norman, 32 oed, 13 o ornestau dan ei felt a dyma'r ail ornest iddo golli.