Dau o flaen llys wedi marwolaeth milwr yn Aberhonddu

Matthew Boyd Image copyright Wales News Service
Image caption Bu farw'r Preifat Matthew Boyd yn yr ysbyty ddydd Sul

Mae dyn wedi bod o flaen llys ar gyhuddiad o lofruddio'r milwr Matthew Boyd.

Cafodd y Preifat Boyd o Gatrawd Frenhinol Gibraltar, ei ddarganfod yn anymwybodol ar stryd yn Aberhonddu tua 01:00 fore Sul. Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Fe wnaeth Jake Vallely, 23 oed, ymddangos o flaen Llys Ynadon Aberhonddu wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth y Preifat Boyd, oedd yn 29 oed.

Siaradodd i gadarnhau ei enw a'i oed, ac mae wedi'i gadw yn y ddalfa.

Aeth dyn arall, Aaeron Evans, 22 oed, o flaen y llys wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol. Mae e hefyd wedi ei gadw yn y ddalfa.

Bydd y ddau yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.

Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd Matthew Boyd ei ddarganfod yn anymwybodol fore Sul