Ysgolion Uwchradd Powys: Ymestyn cyfnod ymgynghori
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Powys wedi ymestyn cyfnod ymgynghori ar ddyfodol ysgolion uwchradd y sir.
Erbyn hyn, fe ddaw'r cyfnod ymgynghori ffurfiol ar ysgolion uwchradd Gwernyfed, Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod i ben ar ddydd Mercher 1 Mehefin.
Mae'r cyngor wedi gofyn am farn y cyhoedd ynglŷn â chau ysgolion uwchradd Gwernyfed ac Aberhonddu, a chreu un ysgol.
Byddai'r un ysgol honno yn gweithredu ar ddau safle ar y dechrau, a hynny o fis Medi 2017.
Mae cynlluniau tebyg yn cael eu hystyried ar gyfer uno ysgolion uwchradd Llanfair-ym Muallt a Llandrindod, ac agor un ysgol ar ddau safle erbyn 2017.
Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus gyda swyddogion y cyngor fis Ebrill ac mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar wefan y cyngor tan ddiwedd mis Mai.
Fel rhan o'r cynllun byddai addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cael ei drosglwyddo o Ysgol Uwchradd Aberhonddu i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt, sydd 14 milltir i ffwrdd.
Straeon perthnasol
- 24 Mawrth 2015