BBC Cymru Fyw

'Llywodraeth leiafrifol yn debygol'

Published
image captionCarwyn Jones
Mae'n debyg y bydd Llafur yn ceisio rheoli fel llywodraeth leiafrifol yn hytrach na cheisio clymbleidiol, meddai'r Prif Weinidog Cerwyn Jones.
Mewn erthygl yn y Sunday Times dywedodd Mr Jones fod canlyniadau dydd Iau yn "fandad clir" i'r blaid Lafur lywodraethu.
Dywedodd y byddai'n cynnal trafodaethau gydag arweinydd Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Mae Llafur wedi dweud na fyddai'n bosib dod i gytundeb gyda'r Ceidwadwyr na UKIP.
Mae disgwyl i'r Cynulliad newydd gwrdd am y tro cyntaf ddydd Mercher.
Dywedodd Mr Jones: "Fe fyddaf yn cynnal trafodaethau gyda Kirsty Williams a Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, am faterion fydd yn codi a hefyd materion lle rydym yn gytûn, ond bydd y rhain ddim yn gyfystyr a thrafodaethau clymblaid."
Dywedodd Mr Jones fod yr etholwyr wedi rhoi mandad clir i Lafur o ran llywodraethu.
Ychwanegodd mai'r ddau brif beth oedd yn wynebu'r llywodraeth newydd oedd y diwydiant dur a'r refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.