Ashley Williams i orffwys am weddill y tymor

Ashley Williams

Bydd capten Cymru Ashley Williams ddim yn chwarae eto i Abertawe y tymor hwn. Mae rheolwr yr Elyrch, Francesco Guidolin yn credu bod yr amddiffynwr yn haeddu hoe cyn gemau Ewro 2016.

Mae Williams wedi chwarae i Abertawe ym mhob gêm yn Uwchgynghrair Barclays y tymor hwn a dim ond saith gêm mae e wedi colli yn ystod y pum mlynedd mae Abertawe wedi bod yn yr adran.

Buodd yr amddiffynwr 31 oed yn allweddol i Gymru hefyd yn ystod yr ymgyrch i gyrraedd rowndiau olaf cystadleuaeth Ewro 2016 gaiff eu chwarae fis nesaf. Wrth i'r tim baratoi ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn yn erbyn West Ham, dywedodd Guidolin: '' Fydd Ash ddim yn chwarae eto'r tymor yma, mae angen hoe arno fe.

''Mae wedi blino oherwydd mae wedi chwarae llawer o gemau'r tymor hwn. Mae'n well i Ash orffwys a pharatoi ar gyfer yr Ewros a thymor nesaf,'' meddai.

Ni fydd amddiffynwr Cymru Neil Taylor na Gylfi Sigurdsson yn teithio i West Ham ychwaith. Maen nhw'n dioddef o anafiadau fydd yn golygu y byddan nhw'n colli gêm olaf Abertawe adref yn erbyn Manchester City.

Nid yw dyfodol y rheolwr ei hun yn sicr. Fe ddwedodd yr Eidalwr ei fod wedi siarad â chadeirydd y clwb Huw Jenkins ddydd Mercher ac mae'n disgwyl y bydd ei ddyfodol yn cael ei benderfynu ar ôl y gêm yn erbyn Manchester City ar Fai 15.

'' Nethon ni gyrraedd ein nôd o aros yn yr adran ac mae'r awyrgylch yma yn braf,'' meddai Guidolin. '' Dwi'n falch o'r chwaraewyr ond dyw popeth ddim ar ben, mae dwy gêm ar ôl yn erbyn y clybiau mawr.''