Gwrthdrawiad Merthyr: Dyn o flaen llys

John Spencer Graham Image copyright Wales News Service
Image caption John Spencer Graham

Mae dyn 21 oed wedi bod o flaen llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth tri o'i ffrindiau trwy yrru'n beryglus.

Aeth John Spencer Graham o flaen ynadon Merthyr Tudful ar ôl i'r tri dyn ifanc farw yn y dre ym mis Hydref y llynedd.

Bu farw Ryan Paul Gibbons, 20 oed, a Gethin Rhys Jones, 18 oed, yn y fan a'r lle wedi'r gwrthdrawiad ar ffordd Aberdar, Merthyr Tudful, ar 11 Hydref 2015.

Cafodd Joe Daniels, 18 oed o Gilfach, Bargoed, anafiadau difrifol a chafodd driniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond bu farw 30 diwrnod yn ddiweddarach.

Image copyright Wales News Service
Image caption Gethin Rhys Jones a Ryan Paul Gibbons.
Image copyright Wales News Service
Image caption Joe Daniels
Image caption Tarodd y car yn erbyn polyn ar Ffordd Abderdâr ym Merthyr Tudful ar 11 Hydref 2015.

Roedd pum dyn yn teithio yn y car Seat Ibiza gwyn pan darodd bostyn telegraff.

Yn y llys ddydd Iau, siaradodd John Spencer Graham o Birchgrove, Tir-phil, i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad. Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth i gyfeiriad yn Hampshire.

Mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys y Goron Merthyr Tudful ar 2 Mehefin.

Straeon perthnasol