Lluniau: Pen draw'r stryd

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunSawl mam yn y gorllewin gafodd ffrog ar gyfer priodas o siop BJ Jones, Llanbed?
ffynhonnell y llun, Lyn Dafis
disgrifiad o’r llunDyma i chi Kwik Save yn Aberystwyth. Roedd gan y cwmni, gafodd ei sefydlu ym Mhrestatyn, sawl cangen ar hyd a lled Cymru
ffynhonnell y llun, Geoff Charles
disgrifiad o’r llunSiop bentref Llanfachraeth yn 1957
ffynhonnell y llun, Brian Whittle
disgrifiad o’r llunSiop David Evans, Abertawe, gafodd ei ddymchwel er mwyn gwneud lle i erddi'r castell
disgrifiad o’r llunAr un adeg, roedd siopau cigydd Dewhurst i'w gweld ar bob stryd fawr
disgrifiad o’r llun'Castle Bakery' oedd yn gyfarwydd ar strydoedd trefi yn y gogledd tan yn ddiweddar
ffynhonnell y llun, Geoff Charles
disgrifiad o’r llunGarej Cambrian, Blaenau Ffestiniog yn 1959. Mae garej ar y safle hyd heddiw, ond mae'r hen adeilad crand yma wedi hen fynd
disgrifiad o’r llunCyn i setiau teledu fod mor rhad ag y maen nhw heddiw, roedd llogi un o'ch siop Granada lleol yn eithaf cyffredin
ffynhonnell y llun, Geoff Charles
disgrifiad o’r llunHen siop nwy yn ardal Beddgelert, yn 1959. Sylwch ar yr hysbyseb ffilm â chysylltiad lleol yn y ffenestr
ffynhonnell y llun, Lyn Dafis
disgrifiad o’r llunRoedd cau siopau Woolworths, fel hon yn Aberystwyth, yn arwydd clir o broblemau siopau'r stryd fawr
ffynhonnell y llun, Wales News Service
disgrifiad o’r llunRoedd siop ddillad Calders yng Nghaerdydd yn cael ei rhedeg am flynyddoedd gan deulu'r digrifwr Sacha Baron Cohen
ffynhonnell y llun, Martyn Hearson
disgrifiad o’r llunPawb yn gadael hen siop TP Hughes yng Nghaerfyrddin er mwyn dal y bws adre
ffynhonnell y llun, Geoff Charles
disgrifiad o’r llunPobl yn ciwio tu fas i siop Littlewoods yn 1950. Mae'r cwmni bellach wedi symud y busnes ar-lein