Yr heddlu yn ymchwilio yn dilyn tanau amheus yng Nghwmbrân

Tan

Mae'r heddlu yn ymchwilio yn dilyn tanau amheus yn ysgol gynradd Dewi Sant yng Nghwmbrân.

Fe gafodd diffoddwyr eu galw i dân mewn storfa y tu allan i'r adeilad.

Roedd y fflamau wedi lledu i ystafell ddosbarth gan achosi rhywfaint o ddifrod.

Mae mesurau diogelwch yn eu lle tan y bydd yr ysgol yn agor ddydd Mawrth.