6,000 yn mwynhau gŵyl gomedi Machynlleth

digrifwyr

Mae disgwyl tua 6,000 o bobl ymgasglu ym Mhowys am y seithfed Ŵyl Gomedi Machynlleth blynyddol.

Mae'r ŵyl - a ddechreuodd ddydd Gwener ac yn parhau tan ddydd Sul- yn denu digrifwyr adnabyddus fel Jon Richardson a David O'Doherty i'r dref.

Mae stands-yps Cymraeg poblogaidd hefyd yn cael llwyfan, yn eu plith bydd yna setiau gan Daniel Glyn, Phil Cooper a Steffan Alun.

Hefyd bydd digwyddiadau cerddorol am ddim, theatr, cabaret a rhaglen i blant.

Roedd y digrifwr Josh Widdicombe i fod i berfformio yn yr ŵyl ond mae wedi gorfod tynnu allan ar y funud olaf.

Image copyright Ed Moore