Gwrthdrawiad Castell-nedd: Cyhoeddi enw dyn fu farw

ffordd Image copyright Google Map

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad angheuol ger Castell-nedd nos Sadwrn.

Cafodd David Griffiths, 25 oed, ei ladd yn y fan a'r lle wedi i'w Citroen C2 coch roedd e'n ei yrru fynd oddi ar y ffordd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 18:45 ar y B4242 i'r gogledd o bentref Abergarwed.

Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Griffiths: "Ein David ni oedd bywyd ac enaid y parti, yn ddyn cariadus, caredig, bydd colled fawr ar ei ôl i'w deulu a'i ffrindiau niferus."

Mae'r heddlu yn apelio am dystion a welodd y car yn cael ei yrru yn ystod neu cyn y digwyddiad.